Angen help gyda cham meddygol eich hawliad? Rydych chi yn y lle iawn.

Cymorth gyda meddygol
Croeso i Hyb Cymorth OIC. Yn yr adran hon byddwn yn eich arwain trwy'r cam o drefnu’ch apwyntiad meddygol a beth i'w wneud ar ôl i'ch adroddiad meddygol gael ei lanlwytho i'r porth. Yma fe welwch adnoddau defnyddiol i gynorthwyo gyda'r cam hwn o'r broses hawlio. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Syniadau ac Awgrymiadau
- Canllawiau Cymorth
- Cwestiynau Cyffredin
- Ffurflenni Sampl
Awgrymiadau a Chynghorion
Mae’r data diweddaraf* o fis Rhagfyr 2023 yn dweud wrthym ei bod yn cymryd 27 diwrnod ar gyfartaledd o’r amser y mae hawlydd yn dewis arbenigwr meddygol, yn trefnu apwyntiad ac yn mynychu archwiliad i’r arbenigwr sy’n lanlwytho’r adroddiad, yn barod i chi ei wirio wedyn.
Gallwch helpu i gadw’ch hawliad ar y trywydd iawn drwy:
- Bod yn brydlon i ateb unrhyw negeseuon yn y system sy'n dweud wrthych fod camau i'w cymryd
- Mewngofnodi i'r system a gweithredu
*Data gan hawlwyr heb gynrychiolaeth.
Canllawiau Cymorth
Er mwyn darparu cymorth gyda'ch proses hawlio, rydym wedi creu cyfres o ganllawiau sy'n cynnwys canllawiau cam wrth gam ar y ffordd orau i lywio gwahanol gamau yn ystod eich taith drwy Borthol yr OIC.
Dyma’r canllawiau cymorth sydd ar gael ar gyfer y cam Meddygol:
Dewis Darparwr Meddygol - Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut y gallwch ddewis eich darparwr meddygol a fydd yn trefnu eich apwyntiad/archwiliad meddygol.
Adolygu Adroddiad Meddygol - Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut i adolygu’ch adroddiad meddygol ar ôl i'r arbenigwr meddygol rannu hwn â chi.
Cael Adroddiad Meddygol Pellach - Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut y gallwch gael adroddiad meddygol pellach os oes angen.
Aros am Brognosis - Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut y gallwch ddewis aros am eich prognosis meddygol.
Symud Ymlaen i Gynnig - Mae’r canllaw hwn yn ymdrin â sut, ar ôl adolygu’ch adroddiad meddygol, y gallwch symud ymlaen i ofyn am gynnig gan y digolledwr.
Canllaw i wneud cais - Mae’r canllaw hwn, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn egluro’r holl dermau a gweithdrefnau cyfreithiol y gallech ddod ar eu traws wrth wneud hawliad os oes angen cymorth pellach arnoch.
Cwestiynau Cyffredin Meddygol
Edrychwch isod am ein cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch cam meddygol y broses hawlio. Os na fyddwch yn dod o hyd i'r ateb i'ch ymholiad yma, edrychwch ymhellach i lawr y dudalen hon am ddogfennaeth ategol ychwanegol a allai fod o gymorth i chi.
Ffurflenni Sampl
Gweler isod fersiynau enghreifftiol o ffurflenni a fydd yn cael eu cynhyrchu gan y Porthol Hawliadau Anafiadau Swyddogol yn ystod y cam hwn o daith yr hawliad. Rydym wedi darparu'r rhain fel y gallwch fod yn barod ar gyfer sut i'w llenwi neu ddeall eu cynnwys ymlaen llaw.
Ffurflen Cyfarwyddyd Meddygol - Bydd hon yn cael ei chynhyrchu gan y Porthol OICL unwaith y byddwch wedi dewis eich dewisiadau meddygol. Yna caiff y ffurflen gyfarwyddyd hon ei rhannu â'r asiantaeth feddygol neu'r arbenigwr a ddewiswyd gennych.
Ffurflen Cyfarwyddyd Meddygol (Amgylchiadau Eithriadol) - Bydd hon yn cael ei chynhyrchu gan y Porthol OICL unwaith y byddwch wedi dewis eich dewisiadau meddygol a hefyd wedi dewis y bu amgylchiadau eithriadol o ran eich anaf. Yna caiff y ffurflen gyfarwyddyd hon ei rhannu â'r asiantaeth feddygol neu'r arbenigwr a ddewiswyd gennych.
Os ydych ar gam gwahanol yn eich hawliad neu os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano, cyfeiriwch at dudalen hafan yr Hyb Cymorth am ganllawiau a chymorth pellach.
If you are at a different stage in your claim or haven't found what you were looking for, please refer to the Help Hub home page for further guides and support.