Angen help gyda cham Atebolrwydd eich hawliad? Rydych chi yn y lle iawn.

Cymorth ag atebolrwydd
Croeso i Hyb Cymorth OIC. Yn yr adran hon byddwn yn eich arwain trwy gam atebolrwydd hawliad. Yma fe welwch adnoddau defnyddiol i gynorthwyo gyda'r cam hwn o'r broses hawlio. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Syniadau ac Awgrymiadau
- Canllawiau Cymorth
- Cwestiynau Cyffredin
- Ffurflenni Sampl
Awgrymiadau a Chynghorion
Mae'r data diweddaraf* o fis Rhagfyr 2023 yn dweud wrthym fod digolledwyr ar gyfartaledd yn gwneud penderfyniad ar atebolrwydd ac yn ymateb drwy'r porth o fewn 13 diwrnod gwaith.
Gallwch helpu i gadw’ch hawliad ar y trywydd iawn drwy:
- Bod yn brydlon i ateb unrhyw negeseuon yn y system sy'n dweud wrthych fod camau i chi eu cymryd
- Mewngofnodi i'r system a gweithredu
*Data gan hawlwyr heb gynrychiolaeth.
Canllawiau Cymorth
Er mwyn darparu cymorth gyda'ch proses hawlio, rydym wedi creu cyfres o ganllawiau sy'n cynnwys canllawiau cam wrth gam ar y ffordd orau i lywio gwahanol gamau yn ystod eich taith drwy Borthol yr OIC.
Dyma’r canllawiau cymorth sydd ar gael ar gyfer y cam Atebolrwydd:
Herio Atebolrwydd a Wrthodwyd - Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut y gallwch herio penderfyniad y digolledwr pan fydd wedi gwadu atebolrwydd am eich hawliad.
Herio Atebolrwydd Rhannol – Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â sut y gallwch herio penderfyniad y digolledwr pan fydd wedi gwadu atebolrwydd rhannol am eich hawliad.
Dadlau nad yw’r ddamwain wedi achosi anaf –
Mae'r canllaw hwn yn ymdrin â'r daith y byddwch yn ei dilyn os bydd y digolledwr yn dadlau nad yw’r ddamwain wedi achosi unrhyw anaf i chi.
Canllaw i wneud hawliad - Mae’r canllaw hwn, sydd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn egluro’r holl dermau a gweithdrefnau cyfreithiol y gallech ddod ar eu traws wrth wneud hawliad os oes angen cymorth pellach arnoch.
Cwestiynau Cyffredin Atebolrwydd
Edrychwch isod am ein cwestiynau mwyaf cyffredin ynghylch cam Atebolrwydd y broses hawlio. Os na fyddwch yn dod o hyd i'r ateb i'ch ymholiad yma, edrychwch ymhellach i lawr y dudalen hon am ddogfennaeth ategol ychwanegol a allai fod o gymorth i chi.
Ffurflenni Sampl
Gweler isod fersiynau enghreifftiol o ffurflenni a fydd yn cael eu cynhyrchu gan y Porthol Hawliadau Anafiadau Swyddogol yn ystod y cam hwn o daith yr hawliad. Rydym wedi darparu'r rhain fel y gallwch fod yn barod ar gyfer sut i'w llenwi neu ddeall eu cynnwys ymlaen llaw.
Ffurflen Ymateb y Digolledwr - Bydd hon yn cael ei chynhyrchu gan y Porthol OICL pan fydd y digolledwr yn gwneud penderfyniad ar atebolrwydd.
Os ydych ar gam gwahanol yn eich hawliad neu os nad ydych wedi dod o hyd i'r hyn roeddech yn chwilio amdano, cyfeiriwch at dudalen hafan yr Hyb Cymorth am ganllawiau a chymorth pellach.
If you are at a different stage in your claim or haven't found what you were looking for, please refer to the Help Hub home page for further guides and support.