Skip to content

Gwneud hawliad am anafiad personol

Mae gennych ddewis. Mae Hawliad Anafiadau Swyddogol yn gwneud y broses hawlio yn syml, yn ddiduedd ac yn ddiogel fel y gallwch hawlio am ddim heb gymorth cyfreithiol. Efallai y byddai'n well gennych ofyn i weithiwr proffesiynol hawliadau ymdrin â'r hawliad ar eich rhan megis cyfreithiwr neu gwmni rheoli hawliadau a allai godi ffi arnoch am eu cymorth.

Mae Hawliad Anafiadau Swyddogol yn broses gam wrth gam syml.

Gallwch wneud hawliad os:

  • ydych yn 18 oed neu'n hŷn
  • digwyddodd y ddamwain yng Nghymru neu Loegr
  • digwyddodd y ddamwain ar neu ar ôl 31 Mai 2021
  • oeddech yn y cerbyd
  • credwch nad eich bai chi oedd y ddamwain

Sut mae'r broses yn gweithio

1. Dechrau'r hawliad

Byddwn yn gofyn i chi am eich hawliad, gan gynnwys:

  • ble a phryd y digwyddodd y ddamwain
  • pa anafiadau sydd gennych o ganlyniad i'r ddamwain
  • pa gerbydau oedd yn y ddamwain a phwy oedd yn gyfrifol yn eich barn chi

2. Ymchwiliad

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais, bydd Hawliad Anafiadau Swyddogol yn trosglwyddo'r wybodaeth hon i'r cwmni yswiriant a oedd yn yswirio'r gyrrwr a oedd, yn eich barn chi, yn gyfrifol. Rydym yn cyfeirio at yr un sy'n darparu'r gwasnaeth hwn fel 'digolledwr'. Bydd y digolledwr wedyn yn gwneud ei ymchwiliadau ei hun i ystyried eich hawliad.

3. Meddygol

Bydd angen i chi drefnu apwyntiad gydag arbenigwr meddygol a fydd yn asesu eich anaf neu'ch anafiadau ac yn ysgrifennu adroddiad meddygol. Bydd yr Hawliad Anafiadau Swyddogol yn eich helpu i drefnu hyn.

4. Cynnig

Unwaith y byddwch wedi penderfynu pwy oedd yn gyfrifol am y ddamwain gyda'r digolledwr ac wedi darparu tystiolaeth o'ch colledion neu anafiadau, dylech gael cynnig iawndal am eich cais, y gallwch ddewis ei dderbyn neu ei herio.

5. Dod â'r hawliad i ben

Ar ôl i chi dderbyn unrhyw gynnig, bydd y digolledwr yn cysylltu â chi i drefnu taliad. Byddwch yn gallu cadw llygad ar gynnydd eich cais ar-lein a byddwn hefyd yn rhoi gwybod i chi pan fydd unrhyw ddiweddariadau.

Yn barod i wneud hawliad? Cymerwch ein holiadur cymhwyster byr.

gwybodaeth bellach


Gellir dod o hyd i adnoddau i gefnogi eich hawliad yma. Mae hyn yn cynnwys Canllaw i ddechreuwyr os hoffech wybod mwy cyn gwneud eich hawliad a chyfeirio at ein Canolfan Help, sydd yn cynnig adnoddau defnyddiol i gynorthwyo gyda phob cam o’r broses hawlio.

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml