Mae’r Hawliad Anaf Swyddogol yn wasanaeth annibynnol ac am ddim i bobl â mân anafiadau o ganlyniad i ddamwain ffordd i allu hawlio iawndal heb gymorth cyfreithiol. Mae’r porthol yma, sy'n hawdd i’w ddefnyddio yma yn eich tywys drwy’r broses o wneud hawliad, cael adroddiad meddygol, rheoli’r hawliad hwnnw, ac os yw’r hawliad yn llwyddiannus, derbyn iawndal.
Cafodd Hawliad Anaf Swyddogol ei ddatblygu gan yr MIB (Motor Insurers' Bureau) ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Mae Hawliad Anaf Swyddogol yn wasanaeth diduedd ac nid yw’n gwneud arian allan o hawliadau. Pwrpas y gwasanaeth yw cyflenwi polisi’r Llywodraeth mewn perthynas â hawliadau anaf personol sy’n gysylltiedig â damwain ffyrdd, dan £5,000 gan godi i hyd at £10,000 am holl golledion sy’n ymwneud â’r ddamwain, (fel colli cyflog a niwed i’ch car ac eiddo).
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os gawsoch eich anafu mewn damwain ffordd ar neu yn dilyn Mai 31, 2021.
Ein Gwerthoedd
Cafodd y gwasanaeth Hawliad Anaf Swyddogol ei gynllunio i wneud y broses hawlio’n un syml, diogel a diduedd er mwyn i urnhywun allu dewis gwneud hawliad heb gymorth cyfreithiol. Mae’r gwasanaeth:
- yn un y gellir ymddiried ynddi – rydym yn gweithio ar ran y Weinyddiaeth Cyfiawnder
- yn ddiogel – cadwn eich manylion yn ddiogel, gyda nodweddion diogewlch wedi eu hadeiladu mewn i bob cam o’r broses. Wnawn ni byth werthu eich data personol
- yn annibynnol a diduedd – yn wahanol i rai gwasanaethau eraill, dydyn ni ddim yn gwneud arian allan o’ch hawliad
- yn dangos dealltwriaeth – deallwn yr hyn y gallech fod yn ei brofi ar ôl damwain ac rydym ni yma i’ch cefnogi drfwy’r broses hawlio
- yn gefnogol a syml – gweithiwn yn galed ar ddyluniad er mwyn gwneud y gwasnaeth yma’n hawdd i chi ddefnyddio
- yn gynorthwyol – rhown wybodaeth glir i’ch cefnogi, hyd yn oed os nad ydych chi’n siŵr ble i fynd
- yn effeithiol – byddwn yn eich tywys drwy broses syml, dan arweiniader mwyn eich rhoi chi mewn rheolaeth a’ch helpu i gwblhau eich hawliad cyn gynted â phosib
- yn hawdd mynd ato – rydym wrth law i ateb unrhyw ymholiadau neu helpu gydag unrhyw broblemau