Darllenwch y Telerau Defnyddio hyn yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu deall cyn defnyddio'r wefan hon www.officialinjuryclaim.org.uk (y "Wefan" hon) gan eu bod (ynghyd â'r dogfennau y cyfeirir atynt ynddynt) yn berthnasol i'ch defnydd o'r Wefan hon ac yn dweud wrthych pa delerau defnyddio y gallech ddefnyddio'r Wefan hon arnynt. Mae defnyddio'r Wefan hon yn cynnwys cyrchu a phori'r Wefan hon. Drwy gyrchu'r Wefan hon, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan bob un o'r Telerau Defnyddio canlynol. Nid yw'r Telerau Defnyddio hyn yn berthnasol ar gyfer defnyddio cais ar-lein â brand OICL (fel addaswyd gan OICL o bryd i'w gilydd) (y "Porth"), ac mae cyfeiriadau at y Wefan hon yn y Cylch Gorchwyl hyn yn gyfyngedig i'r Porth.
Mae OICL yn argymell eich bod yn argraffu copi o'r Telerau Defnyddio hyn neu'n eu cadw ar eich cyfrifiadur pe bai angen cyfeirio atynt yn y dyfodol.
Os nad ydych yn derbyn y Telerau Defnyddio hyn a/neu os nad ydych am gael eich rhwymo ganddynt, na ddylech ddefnyddio'r Wefan hon a dylech adael y wefan ar unwaith.
Mae'r Telerau Defnyddio yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gweithredir y Wefan hon gan Official Injury Claim Limited ("OICL") (cofrestrwyd yng Nghymru a Lloegr â rhif 11752037, y swyddfa gofrestredig yn Linford Wood House, 6-12 Capital Drive, Linford Wood, Milton Keynes, MK14 6XT).
Mae gan OICL yr hawl, heb reswm ac heb atebolrwydd, i'ch atal neu eich blocio o'r Wefan hon ar unwaith ac heb rybudd.
1. Telerau Perthnasol Eraill
Mae'r Telerau Defnyddio hyn yn cyfeirio at y telerau ychwanegol canlynol, sydd hefyd yn berthnasol i'ch defnydd o'r Wefan hon:
- Polisi Defnydd Priodol OICL ym mharagraff 19 i 24 o'r Telerau Defnyddio hyn, sy'n nodi'r defnydd a ganiateir ac a waherddir o'r Wefan hon.
- Polisi Cwcis OICL, sy'n nodi gwybodaeth am y cwcis a ddefnyddir ar y Wefan hon a'r Porth.
2. Mynediad i'r wefan o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig
Nid yw OICL yn gwneud unrhyw gynrychiolaeth na sicrhad bod unrhyw ran o'r wybodaeth a gynhwysir ar y Wefan hon ar gael neu'n briodol i'w defnyddio mewn unrhyw wlad neu awdurdodaeth heblaw'r Deyrnas Unedig. Os byddwch yn dewis cael mynediad i'r Wefan hon o'r tu allan i'r Deyrnas Unedig, byddwch yn gwneud hynny ar eich menter eich hun. Gall OICL gyfyngu ar argaeledd y Wefan hon i unrhyw berson neu ardal ddaearyddol ar unrhyw adeg.
3. Argaeledd y Wefan hon
Mae'r Wefan hon ar gael yn rhad ac am ddim. Nid yw OICL yn sicrhau y bydd y Wefan hon, nac unrhyw gynnwys arni, bob amser ar gael neu heb gael ei gohirio. Caniateir mynediad i'r Wefan hon dros dro. Caiff OICL atal, tynnu'n ôl, terfynu neu newid wefan OICL gyfan neu unrhyw ran ohoni. Ni fydd OICL yn atebol i chi os nad yw'r Wefan hon neu unrhyw gynnwys arni ar gael am unrhyw reswm neu os bydd yn cael ei gohirio ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi ar gyfer unrhyw waharddiad neu dynnu'n ôl.
Chi sy'n gyfrifol am wneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi gael mynediad i'r Wefan hon. Nid yw OICL yn ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd. Chi sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd a godir gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd.
Rydych hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r Wefan hon drwy eich cysylltiad â'r rhyngrwyd yn ymwybodol o'r Telerau Defnyddio hyn a'r telerau ac amodau perthnasol eraill, a'u bod yn cydymffurfio â nhw.
4. Newidiadau i'r Wefan hon
Gall OICL ddiweddaru'r Wefan hon o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau i'n cynnyrch, anghenion ein defnyddwyr a'n blaenoriaethau busnes. Byddwn yn ceisio rhoi rhybudd rhesymol i chi ar gyfer unrhyw newidiadau mawr. Fodd bynnag, nodwch y gallai unrhyw ran o'r cynnwys ar y Wefan hon heb gael ei diweddaru ar unrhyw adeg benodol, ac nid oes rhaid i OICL ei ddiweddaru am hyn nac am unrhyw reswm.
Nid yw OICL yn cynrychioli, yn gwarantu nac yn sicrhau y bydd y Wefan hon, nac unrhyw gynnwys arni, yn rhydd o wallau neu hepgoriadau.
5. Indemniad gennych o blaid OICL
Hyd eithaf a ganiateir gan y gyfraith a heb amharu ar unrhyw hawliau eraill sydd ar gael i OICL, rydych drwy hyn yn cytuno i indemnio OICL yn llawn a heb gyfyngiad ar gyfer unrhyw golledion, costau, treuliau neu iawndal (gan gynnwys costau a dalwyd mewn anheddiad, treuliau, llog, cosbau, sancsiynau a'r holl gostau a threuliau cyfreithiol a phroffesiynol eraill) a dynnwyd neu ddioddefwyd gan OICL mewn perthynas ag unrhyw doriad o'r Telerau Defnyddio hyn gennych neu o ganlyniad iddo.
6. Cyfyngiad atebolrwydd OICL
Nid yw'r Telerau Defnyddio hyn yn eithrio nac yn cyfyngu ar atebolrwydd OICL am farwolaeth neu anafiad personol sy'n deillio o'i esgeulustod neu esgeulustod ei gyflogeion, asiantau neu isgontractwyr, neu dwyll OICL neu gamliwio twyllodrus, neu unrhyw rwymedigaeth arall na ellir ei heithrio na'i chyfyngu gan gyfraith Lloegr.
Os ydych yn ddefnyddiwr busnes:
Hyd yr eithaf posib a ganiateir gan y gyfraith, mae OICL yn eithrio pob amod, gwarant, cynrychioliad neu delerau eraill a allfod yn berthnasol i'r Safle hon neu unrhyw gynnwys ynddi, boed wedi'i nodi neu'i awgrymu.
Ni fydd OICL yn atebol i chi am unrhyw golled neu ddifrod, boed mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), toriad mewn dyletswydd statudol, neu fel arall, hyn yn oed pe gellid ei ragweld, a oedd yn codi mewn cysylltiad â:
- defnydd o'r Safle hon neu anallu i wneud hynny
- neu defnydd o neu ddibyniaeth ar unrhyw gynnwys a ddangoswyd ar y Safle hon, neu unrhyw gamau gweithredu neu benderfyniad a wnaed o ganlyniad i ddefnyddio'r wefan neu'r cynnwys a ddangosir arni.
Ni fydd OICL, yn benodol (ond heb gyfyngiad), yn atebol am unrhyw:
- colli elw, gwerthiant, busnes neu gyllid
- toriad mewn busnes
- colled mewn cynilon a ddisgwylid
- colli cyfle am fusnes, ewyllys da neu enw da
- neu colled neu niwed anuniongyrchol neu ganlyniadol
Os ydych yn ddefnyddiwr:
Nodwch fod OICL yn darparu'r Wefan hon at ddefnydd domestig a phreifat yn unig. Rydych yn cytuno i beidio â defnyddio'r Wefan hon at unrhyw ddibenion masnachol neu fusnes, ac nid oes gan OICL unrhyw atebolrwydd i chi am golli elw, colli busnes, toriad mewn busnes, na cholli cyfle am fusnes.
7. Dim dibyniaeth ar wybodaeth
Darperir y cynnwys ar y Wefan hon er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Ni ddylech edrych ar y cynnwys hwn fel cyngor i ddibynnu arno. Rhaid i chi dderbyn cyngor proffesiynol neu arbenigol cyn cymryd, neu ymatal rhag, unrhyw gamau gweithredu sy'n seiliedig ar gynnwys y Wefan hon.
8. Digwyddiadau y tu hwnt i reolaeth OICL
Ni fydd OICL yn atebol nac yn gyfrifol os na fyddant yn gallu cyflawni, neu os bydd oedi wrth gyflawni, unrhyw rai o'i rwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddio hyn a achosir gan Ddigwyddiad y tu hwnt i Reolaeth OICL (fel y diffinnir isod).
Ystyr "Digwyddiad y tu hwnt i Reolaeth OICL" yw unrhyw weithred neu ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth resymol OICL, gan gynnwys, heb gyfyngiad, streiciau, cloi allan neu weithredu diwydiannol gan drydydd partïon, anghydfod sifil, terfysg, ymosodiad, ymosodiad terfysgol neu fygythiad o ymosodiad terfysgol, rhyfel (p'un a ddatganwyd ai peidio) neu fygythiad ohono neu baratoad ar ei gyfer, tân, ffrwydrad, storm, llifogydd, daeargryn, ymsuddiant, epidemig neu drychineb naturiol arall, neu fethiant rhwydweithiau telegyfathrebu cyhoeddus neu breifat.
Os bydd Digwyddiad y tu hwnt i Reolaeth OICL yn digwydd sy'n effeithio ar berfformiad rhwymedigaethau OICL o dan y Telerau Defnyddio hyn, bydd rhwymedigaethau OICL o dan y Telerau Defnyddio hyn yn cael eu hatal a bydd yr amser ar gyfer cyflawni rhwymedigaethau OICL yn cael ei ymestyn drwy gydol y Digwyddiad y tu hwnt i Reolaeth OICL.
9. Newidiadau i'r Telerau Defnyddio
Mae gan OICL yr hawl i ddiweddaru'r Telerau Defnyddio hyn o bryd i'w gilydd, ar unrhyw adeg, heb roi gwybod i chi. Bydd y fersiwn gyfredol bob amser ar gael ar y Wefan. Mae pob diweddariad o'r fath yn dod i rym cyn gynted ag y byddant yn ymddangos ar y Wefan hon a bydd eich defnydd parhaus ar ôl diweddariad o'r fath yn arwydd o'ch cytundeb i fod yn rhwym. Edrychwch ar y dudalen hon o bryd i'w gilydd i nodi unrhyw newidiadau y mae OICL wedi'u gwneud, gan eu bod yn rhwymo chi.
10. Cyffredinol
Mae'r Telerau Defnyddio hyn a'r holl gytundebau a dogfennau eraill y cyfeirir atynt ac a ymgorfforir ynddynt yn cynrychioli'r cytundeb cyfan rhwng OICL a chi i ddefnyddio'r Wefan hon ac yn disodli pob cytundeb blaenorol. Os ydych yn ddefnyddiwr, nodwch y bydd y Telerau Defnyddio hyn, eu ffurfioldeb (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebau sy'n deillio o'r cytundeb hwn neu yn gysylltiedig â hwy), yn cael eu llywdoraeth gan gyfraith Lloegr. Rydych chi a'r OICL yn cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr awdurdodaeth rhydd os bydd anghydfod neu hawliad (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebau) sy'n deillio o'r cytundeb hwn neu yn gysylltiedig ag ef. Fodd bynnag, os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon gallwch hefyd ddwyn achos yng Ngogledd Iwerddon, ac os ydych yn byw yn yr Alban, gallwch hefyd ddwyn achos yn yr Alban.
Os ydych yn fusnes, bydd y Telerau Defnyddio hyn, eu ffurfioldeb (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebau sy'n deillio o'r cytundeb hwn neu yn gysylltiedig â nhw), yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Lloegr a byddwch yn dod dan awdurdodaeth unigol Llysoedd Loegr os bydd anghydfod neu hawliad (gan gynnwys unrhyw anghydfodau neu hawliadau nad ydynt yn gytundebau) sy'n deillio o'r cytundeb hwn neu yn gysylltiedig ag ef.
Nid yw methiant OICL i arfer neu oedi wrth arfer hawl neu ateb a ddarperir gan y Telerau Defnyddio hyn neu yn ôl y gyfraith:
- yn golygu hepgor yr hawl neu'r ateb
- neu hepgor hawliau neu atebion eraill
Byddwch yn gwneud neu yn cael gafael ar bob gweithred a pheth o'r fath a gweithredu neu yn cael gafael ar weithredu holl ddogfennau eraill o'r fath a allai fod o bryd i'w gilydd eu hangen er mwyn gweithredu'n iawn darpariaethau'r Telerau Defnyddio hyn a sicrhau i OICL fudd llawn yr hawliau, pwerau ac atebion a roddwyd i OICL yn y Telerau Defnyddio hyn.
Os bydd unrhyw lys neu gorff gweinyddol o awdurdodaeth gymwys yn canfod bod unrhyw ddarpariaeth o'r Telerau Defnyddio hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu'n amhosibl ei gorfodi, ni fydd anghyfreithlondeb, annilysrwydd neu anghorfodadwyedd o'r fath yn effeithio ar ddarpariaethau eraill y Telerau Defnyddio hyn a fydd yn parhau i fod mewn grym.
Ni fyddwch yn awgrymu nac yn trefnu, trosglwyddo, codi ffi, isgontractio nac ymdrin mewn unrhyw ffordd arall â'ch holl hawliau neu rwymedigaethau o dan y Telerau Defnyddio hyn.
Caiff OICL ar unrhyw adeg trefnu, trosglwyddo, codi ffi, isgontractio neu ymdrin mewn unrhyw ffordd arall â'i holl hawliau neu rwymedigaethau, neu unrhyw rai ohonynt, o dan y Telerau Defnyddio hyn. Byddwn bob amser yn dweud wrthych yn ysgrifenedig os bydd hyn yn digwydd a byddwn yn sicrhau na fydd y trosglwyddiad yn effeithio ar eich hawliau o dan y Telerau Defnyddio hyn.
Ni fwriedir i unrhyw beth yn y Telerau Defnyddio hyn, na bydd yn gweithredu i:
- greu partneriaeth rhyngoch chi ac OICL, nac
- awdurdodi naill ai chi neu OICL i weithredu fel asiant i'r llall; ac
- ni fydd gennych chi na'r OICL awdurdod i weithredu yn enw nac ar ran neu fel arall i rwymo'r llall mewn unrhyw ffordd (gan gynnwys gwneud unrhyw sylw neu warant, rhagdybio unrhyw rwymedigaeth neu atebolrwydd ac arfer unrhyw hawl neu bŵer).
11. Hawliau Trydydd Parti
Mae'r Telerau Defnyddio hyn rhyngoch chi ac OICL. Ni chaiff neb arall unrhyw fudd na'r hawl i orfodi unrhyw delerau a gynhwysir yma at ddibenion Deddf Contractau (Hawliau Trydydd Partïon) 1999.
12. Nodau masnach
At ddibenion y Telerau Defnyddio hyn, gall OICL hawlio ar gyfer nodau masnach eraill, nodau gwasanaeth, logos ac eiconau sydd ar y Wefan hon.
13. Eiddo Deallusol
Mae'r holl hawliau eiddo deallusol (gan gynnwys hawlfraint) yn y Wefan hon a'r deunydd a gyhoeddir ar y Wefan hon yn perthyn, neu wedi'u trwyddedu, i OICL neu ei drwyddedwyr, yn ôl y digwydd, oni nodir yn wahanol, ac ni ellir ei ddefnyddio, ei werthu, ei drwyddedu, ei gopïo na'i atgynhyrchu yn gyfan neu'n rhannol mewn unrhyw ffordd neu ffurf gan unrhyw berson heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig OICL ymlaen llaw.
Mae'r gwaith sydd wedi'i gynnwys ar y Wefan hon yn cael ei ddiogelu gan gyfreithiau hawlfraint a chytundebau ledled y byd. Cedwir pob hawl.
Gallwch argraffu un copi, a lawrlwytho darnau, o unrhyw dudalen(au) o'r Wefan hon at ddibenion defnydd personol, anfasnachol yn unig a gallwch dynnu sylw eraill o fewn eich sefydliad at y cynnwys a lanlwythwyd ar y Wefan hon.
Ni ddylech addasu'r copïau papur neu ddigidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi'u hargraffu na'u lawrlwytho mewn unrhyw ffordd, a rhaid i chi beidio â defnyddio unrhyw luniau, ffotograffau, clipiau sain nac unrhyw graffeg ar wahân i unrhyw destun cysylltiedig.
Gwaherddir unrhyw storio arall, copïo, trosglwyddo, dosbarthu neu ddefnydd arall o'r deunydd ar y Wefan hon heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig OICL ymlaen llaw.
Rhaid cydnabod statws OICL (a statws unrhyw gyfranwyr a nodwyd) fel awduron cynnwys y Wefan hon bob amser.
Ni ddylech ddefnyddio unrhyw ran o'r cynnwys ar y Wefan hon at ddibenion masnachol heb gael trwydded i wneud hynny gan OICL na'i drwyddedwyr.
Os byddwch yn argraffu, copïo, neu lawrlwytho unrhyw ran o'r Wefan hon yn groes i'r Telerau Defnyddio hyn, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan hon yn dod i ben ar unwaith a rhaid i chi, yn ôl opsiwn OICL, ddychwelyd neu ddinistrio unrhyw gopïau o'r deunyddiau yr ydych wedi'u gwneud.
14. Lanlwytho Cynnwys i'r Wefan hon
Pan fyddwch yn defnyddio nodwedd sy'n gadael i chi lanlwytho cynnwys i'r Wefan hon, neu i gysylltu â defnyddwyr eraill y Wefan hon, rhaid i chi gydymffurfio â'r safonau cynnwys a nodir ym Mholisi Defnydd Priodol OICL.
Rydych yn sicrhau bod unrhyw gyfraniad o'r fath yn cydymffurfio â'r Polisi Defnydd Priodol, a byddwch yn atebol i OICL ac yn ei ddigolledu am unrhyw achos o dorri'r warant honno. Os ydych yn ddefnyddiwr, mae hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod y mae OICL yn ei ddioddef o ganlyniad i dorri gwarant.
Bydd unrhyw gynnwys y byddwch yn ei lanlwytho i'r Wefan hon yn cael ei ystyried yn anghyfrinachol ac yn amherchnogol, ac mae gan OICL a defnyddwyr eraill y Wefan hon yr hawl i ddefnyddio, storio copïo, dosbarthu a datgelu i drydydd partïon unrhyw gynnwys o'r fath at unrhyw ddiben.
Mae gan OICL hefyd yr hawl i ddatgelu eich hunaniaeth i unrhyw drydydd parti sy'n honni bod unrhyw gynnwys a lanlwythwyd gennych i'r Wefan hon yn torri eu hawliau eiddo deallusol, neu eu hawl i breifatrwydd. Ni fydd OICL yn gyfrifol, nac yn atebol i unrhyw drydydd parti, am gynnwys na chywirdeb unrhyw gynnwys a lanlwythwyd gennych chi neu unrhyw ddefnyddiwr arall ar y Wefan hon.
Heb amharu ar unrhyw hawl neu ateb a allai fod ganddo, mae gan OICL yr hawl i dynnu (ar unrhyw adeg) unrhyw gynnwys y byddwch yn ei lanlwytho (neu a wneir ar eich rhan ar y Wefan hon) os, ym mharn OICL, nad yw'n cydymffurfio yn llawn â'r darpariaethau a nodir yn y Polisi Defnydd Priodol.
Nid yw'r barnau a fynegwyd gan ddefnyddwyr eraill ar y Wefan hon o reidrwydd yn cynrychioli barn OICL.
15. Feirysau
Nid yw OICL yn sicrhau y bydd y Wefan hon yn ddiogel neu'n rhydd o namau neu feirysau.
Chi sy'n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, eich rhaglenni cyfrifiadurol a'ch platfform er mwyn cael mynediad i'r Wefan hon.
Dylech ddefnyddio eich meddalwedd diogelu feirysau eich hun. Ni ddylech gamddefnyddio'r Wefan hon drwy gyflwyno feirysau, ceffylau pen Troea, mwydod, bomiau amser neu ddeunydd arall sy'n faleisus neu'n dechnolegol niweidiol yn fwriadol. Ni ddylech geisio cael mynediad heb awdurdod i'r Wefan hon, y gweinydd y mae'r Wefan hon yn cael ei storio arno nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata sy'n gysylltiedig â'r Wefan hon. Rhaid i chi beidio ag ymosod ar y Wefan hon drwy ymosodiad seiber neu ymosodiad seiber wedi'i ddosbarthu. Drwy dorri'r ddarpariaeth hon, byddwch efallai yn cyflawni trosedd dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Bydd OICL yn rhoi gwybod i'r awdurdodau gorfodi'r gyfraith perthnasol am unrhyw doriad o'r fath a bydd yn cydweithredu â'r awdurdodau hynny drwy ddatgelu eich hunaniaeth iddynt. Os bydd toriad o'r fath yn digwydd, bydd eich hawl i ddefnyddio'r Wefan hon yn dod i ben ar unwaith.
16. Creu dolen i'r Wefan hon
Ni fyddwch yn cychwyn, creu a/na darparu dolen i'r Wefan hon o unrhyw Wefan arall, ac ni allwch atgynhyrchu na storio unrhyw ran o'r Wefan hon ar unrhyw Wefan arall heb dderbyn caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw gan OICL.
17. Dolenni i Wefannau Trydydd Parti
Gall y Wefan hon hefyd gynnwys dolenni hyperdestun i Wefannau a weithredir gan drydydd partïon. Y sefydliad y nodwyd ei fod yn rheoli gwefan y trydydd parti yn unig fydd yn gyfrifol am weithredu a chynnwys y gwefannau hynny a bydd yn cael ei lywodraethu gan delerau ac amodau ar wahân. Nid yw OICL yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau sy'n gysylltiedig â'r Wefan hon. Darperir dolenni er hwylustod yn unig ac nid yw cynnwys unrhyw ddolen yn golygu cymeradwyaeth gan OICL o'r wefan sy'n gysylltiedig â hi. Nid yw OICL yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys unrhyw wefan drwy ddolen a ddarperir gan OICL ac na fydd OICL yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi os byddwch yn eu defnyddio.
18. Cysylltu ag OICL
Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau yn gysylltiedig â'r Wefan hon neu os hoffech gysylltu â OICL am unrhyw reswm arall, anfonwch neges at enquiries@OICL.org.uk.
Os cewch unrhyw broblemau o ran cael mynediad i unrhyw ran o'r Wefan, cysylltwch ag OICL naill ai drwy ffonio 0845 165 2800 neu anfonwch e-bost at enquiries@OICL.org.uk.
19. Polisi Defnydd Priodol
Mae'r Polisi Defnydd Priodol hwn yn nodi'r telerau rhyngoch chi ac OICL ar gyfer cael mynediad i'r Wefan hon. Mae'r Polisi Defnydd Priodol hwn yn berthnasol i bob defnyddiwr ac ymwelydd ac ymwelydd â'r Wefan hon.
Drwy ddefnyddio'r Wefan hon, mae'n golygu eich bod yn derbyn, ac yn cytuno i gadw at, pob polisi yn y Polisi Defnydd Priodol hwn.
20. Polisi Defnydd Priodol - Defnydd gwaharddedig
Caniateir i chi ddefnyddio y Wefan hon at ddibenion cyfreithlon yn unig. Ni chewch ddefnyddio'r Wefan hon:
- Mewn unrhyw ffordd sy'n torri unrhyw gyfraith neu reoliad lleol, cenedlaethol neu ryngwladol perthnasol (gan gynnwys, ond ddim yn gyfyngedig iddo, Rheoliad Data Cyffredinol a Deddf Diogelu Data 2018).
- Os nad oes gennych y gallu i ymrwymo i gontractau rhwymol.
- Os, fel unigolyn, nad ydych yn 18 oed o leiaf neu heb gyrraedd yr oedran cyfreithiol yn y wladwriaeth neu'r wlad yr ydych yn byw ynddi.
- Mewn unrhyw ffordd sy'n anghyfreithlon neu'n dwyllodrus, neu sydd ag unrhyw ddiben neu effaith anghyfreithlon neu dwyllodrus.
- At y diben o niweidio neu geisio niweidio pobl ifanc o dan oed mewn unrhyw ffordd.
- I fwlio, sarhau, dychryn neu fychanu unrhyw berson.
- I anfon, derbyn, lanlwytho, lawrlwytho, defnyddio neu ailddefnyddio'n fwriadol unrhyw ddeunydd nad yw'n cydymffurfio â safonau cynnwys OICL.
- I drosglwyddo, neu beri anfon unrhyw ddeunydd hysbysebu neu hyrwyddo na ofynnwyd amdanynt neu na chawsant eu hawdurdodi neu unrhyw ffordd arall debyg o geisio cael rhywbeth gan rywun (sbam).
- I fynd ati yn fwriadol i drosglwyddo unrhyw ddata, anfon neu lanlwytho unrhyw ddeunydd sy'n cynnwys feirysau, ceffylau pren Troea, mwydod, bomiau amser, cofnodwyr trawiadau bysellau, ysbïwedd, meddalwedd hysbysebu neu unrhyw raglenni niweidiol eraill neu god cyfrifiadurol tebyg a gynlluniwyd er mwyn cael effaith andwyol ar weithrediad unrhyw feddalwedd neu galedwedd cyfrifiadurol.
Rydych hefyd yn cytuno:
- I beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo nac ailwerthu unrhyw ran o'r Gwefan hon yn groes i ddarpariaethau'r Telerau Defnyddio.
- I beidio â chaniatáu i unrhywun arall ddefnyddio unrhyw enw defnyddiwr a chyfrineiriau a ddarperir i chi i gael mynediad i'r Wefan hon.
- I beidio â datgelu eich enw defnyddiwr a'ch cyfrinair a sicrhau ei fod yn cael ei gadw yn gyfrinachol bob amser.
- I beidio â chael mynediad heb ganiatâd, ymyrryd, difrodi neu amharu ar: unrhyw ran o'r Wefan hon;
- unrhyw gyfarpar neu rwydwaith y mae'r Wefan hon wedi'i stori arno; unrhyw feddalwedd a ddefnyddir wrth ddarparu y Wefan hon; a/neu
- unrhyw gyfarpar neu rwydwaith neu feddalwedd sy'n eiddo i unrhyw drydydd parti neu'n cael eu defnyddio gan unrhyw drydydd parti.
21. Polisi Defnydd Priodol - Gwasanaethau rhyngweithiol Gall
OICL, o bryd i'w gilydd, ddarparu gwasanaethau rhyngweithiol ar y Wefan hon, gan gynnwys, heb gyfyngiad, y Porth.
Pan fydd OICL yn darparu gwasanaethau rhyngweithiol, bydd yn rhoi gwybodaeth glir i chi am y math o wasanaeth a gynigir, os caiff ei gymedroli a pha fath o gymedroli a ddefnyddir (gan gynnwys a yw'n dechnegol neu'n cael eu gweithredu gan berson).
Bydd OICL yn gwneud ei orau i asesu unrhyw risgiau posibl ar gyfer defnyddwyr o drydydd partïon pan fyddant yn defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarperir ar y Wefan hon, a bydd yn penderfynu ym mhob achos a yw'n briodol cymedroli'r gwasanaeth perthnasol (gan gynnwys pa gymedroli i'w ddefnyddio) o ystyried y risgiau hynny. Fodd bynnag, nid oes rhaid i OICL oruchwylio, monitro na chymedroli unrhyw wasanaeth rhyngweithiol y mae'n ei ddarparu ar y Wefan hon, ac yn benodol nad yw'n gyfrifol am unrhyw golled neu ddifrod sy'n deillio o ddefnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol gan ddefnyddiwr yn groes i safonau cynnwys OICL, p'un a yw'r gwasanaeth yn cael ei gymedroli ai peidio.
I fod yn glir, ni ddylech ddefnyddio unrhyw wasanaethau rhyngweithiol ar y Wefan hon os nad oes gennych y gallu i ymrwymo i gontractau rhwymol neu os nad ydych, fel unigolyn, yn 18 oed o leiaf neu heb gyrraedd yr oedran cyfreithiol yn y wladwriaeth neu'r wlad yr ydych yn byw ynddi.
Pan fydd OICL yn cymedroli gwasanaeth rhyngweithiol, bydd fel arfer yn rhoi manylion i chi ar gyfer cysylltu â'r safonwr, pe bai pryder neu broblem yn codi.
22. Polisi Defnydd Priodol - Safonau cynnwys
Mae'r safonau cynnwys hyn ("Safonau Cynnwys") yn berthnasol i unrhyw ddeunydd yr ydych yn ei gyfrannu i'r Wefan hon ("Cyfraniadau"), ac i unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy'n gysylltiedig ag ef.
Rhaid cydymffurfio â'r Safonau Cynnwys o ran meddylfryd yn ogystal ag yn llythrennol. Mae'r Safonau Cynnwys yn berthnasol i unrhyw gyfraniad a phob rhan ohono.
Rhaid sicrhau bod Cyfraniadau:
- Yn gywir (os yw'n nodi ffeithiau).
- Yn ddidwyll (os yw'n mynegi barn).
- Yn cydymffurfio â'r gyfraith sy'n berthnasol yn y Deyrnas Unedig ac mewn unrhyw wlad y mae'n cael ei anfon ohoni.
Rhaid sicrhau nad yw Cyfraniadau:
- Yn cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n difenwi neb.
- Yn cynnwys unrhyw ddeunydd sy'n anweddus, yn dramgwyddus, yn gas nac yn rhy danllyd.
- Yn bwlio, yn sarhau, yn dychryn nac yn bychanu.
- Yn hybu deunydd o natur rywiol.
- Yn cynnwys deunydd cam-drin plant yn rhywiol.
- Yn hybu trais. Yn hybu gwahaniaethu o unrhyw fath (gan gynnwys gwahaniaethu ar sail hil, rhyw, crefydd, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol nac oedran).
- Yn torri hawlfraint, hawliau cronfa ddata neu nod masnach unrhyw berson arall. Yn debygol o dwyllo rhywun.
- Yn torri unrhyw ddyletswydd gyfreithiol i drydydd parti, megis dyletswydd contract neu ddyletswydd cyfrinachedd.
- Yn hybu unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.
- Yn fygythiol, yn cam-drin neu'n torri ar lonyddwch rhywun arall, neu'n achosi dicter, anhwylustod neu orbryder diangen.
- Yn debygol o aflonyddu, tramgwyddo, codi cywilydd, dychryn neu wylltio rhywun arall.
- Yn ffugio bod yn rhywun arall, neu'n camgyfleu eich hunaniaeth neu eich cysylltiad ag unrhyw berson.
- Yn rhoi'r argraff eu bod yn deillio oddi wrth OICL, os nad yw hynny yn wir.
- Yn cefnogi, yn hybu, na chynorthwyo unrhyw weithred anghyfreithlon megis (er enghraifft yn unig) torri rheolau hawlfraint neu dorri hawliau eiddo deallusol neu gamddefnyddio cyfrifiadur.
- Yn cynnwys datganiad rydych yn gwybod neu’n credu, neu bod gennych sail resymol i gredu, bod aelodau o’r cyhoedd y mae’r datganiad yn cael ei gyhoeddi iddynt, neu y bydd yn cael ei gyhoeddi iddynt, yn debygol o’i ddeall fel anogaeth uniongyrchol neu anuniongyrchol neu gymhelliad arall i gomisiynu, paratoi neu gychwyn gweithredoedd terfysgol.
- Yn cynnwys unrhyw hysbysebu nac yn hybu unrhyw wasanaethau neu ddolenni gwe i wefannau eraill.
23. Polisi Defnydd Priodol - Atal Dros Dro a therfynu Heb ymrwymiad i'r uchod, bydd OICL yn penderfynu, yn ôl ei disgresiwn, pa un a ydych wedi torri'r Polisi Defnydd Priodol hwn wrth i chi ddefnyddio'r Wefan hon. Pan fydd achos o dorri'r polisi hwn wedi digwydd, bydd OICL yn gweithredu fel sy'n briodol yn ein barn ni.
Mae peidio â chydymffurfio â'r Polisi Defnydd Priodol hwn yn golygu mynd yn groes i'r Telerau Defnyddio hyn sy'n rhoi caniatâd i chi ddefnyddio y Wefan hon, a gallai golygu bod OICL yn cymryd pob un o'r camau isod neu unrhyw rai ohonynt:
- Diddymu eich hawl i ddefnyddio y Wefan hon ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
- Tynnu unrhyw gyfraniad sydd wedi cael ei lanlwytho gennych i'r Wefan hon ar unwaith, dros dro neu yn barhaol.
- Rhoi rhybudd i chi.
- Dwyn achos cyfreithiol yn eich erbyn i adennill unrhyw gostau ar sail indemniad (gan gynnwys costau gweinyddol a chyfreithiol rhesymol, ond nid yn gyfyngedig i hynny) sy'n deillio o'r achos o ddiffyg cydymffurfio.
- Cymryd camau cyfreithiol pellach yn eich erbyn. Datgelu unrhyw wybodaeth sy'n rhesymol angenrheidiol, ym marn OICL, i awdurdodau gorfodi'r gyfraith.
Mae OICL yn eithrio pob atebolrwydd dros gamau a gymerir mewn ymateb i achosion o dorri'r Polisi Defnydd Priodol hwn. Nid yw'r ymatebion a ddisgrifir yn y polisi hwn yn gyfyngedig, a gall OICL gymryd unrhyw gamau eraill sy'n rhesymol yn eu barn nhw fel y bo'n briodol.
24. Polisi Defnydd Priodol - Newidiadau i'r Polisi Defnydd Priodol
Gallai OICL ddiwygio'r Polisi Defnydd Priodol hwn ar unrhyw adeg heb unrhyw atebolrwydd ac heb roi gwybod i chi. Mae unrhyw newidiadau o'r fath yn effeithiol cyn gynted ag y byddant yn ymddangos ar y Wefan hon a bydd eich defnydd parhaus o'r wefan ar ôl newidiad o'r fath yn arwydd o'ch cytundeb i gael eich rhwymo ganddo. Disgwylir i chi ddarllen y dudalen hon o bryd i'w gilydd i nodi unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn gyfrwymol arnoch. Gall rhai o'r darpariaethau yn y Polisi Defnydd Priodol hwn gael eu disodli gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn rhannau eraill o'r Wefan hon.