Datganiad Hygyrchedd
Mae’r datganiad yma’n berthnasol i’r parth www.officialinjuryclaim.org.uk. Caiff y safle yma ei redeg gan Official Injury Claim Limited.
Ein hymrwymiad
Rydym wedi ymrwymo i wneud ein gwefan hawliadau digidol mor hawdd i’w defnyddio a hygyrch i gynifer o bobl â phosib.
Rydym am i bawb allu defnyddio’r gwasanaeth yma, gan gynnwys y sawl sydd ag anghenion mynediad, ac sydd yn well ganddyn nhw gael neu sydd angen dechnolegau cynorthwyol neu addasol.
Rydym wedi cynllunio’r cynnwys a’i brofi gyda gwahanol dechnolegau er mwyn derbyn ac ymgysylltu gyda chynnwys ar-lein. Golyga hyn y dylech fod yn gallu:
• newid gwedd weledol y cynnwys (fel addasu lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffont neu chwyddo hyd at 200% heb fod y testun yn arllwys o’r sgrin)
• mordwyo rhan fwyaf y wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd
• mordwyo rhan fwyaf y wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
• gwrando ar ran fwyaf y wefan gan ddefnyddio darllenwr sgrin
Rydym hefyd wedi ceisio gwneud y cynnwys mor glir â phosib ac i’r broses fod mor syml â phosib.
Yr hyn rydym wedi ei wneud ac yn ei wneud i wella ein hygyrchedd
Rydym wedi cynnal archwiliad o’n safle ar gyfer hygyrchedd yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) 2.1 lefel AA. Fe wnaethon ni gynnal profi defnyddioldeb yn seiliedig ar daith gyda phobl anabl a hŷn.
Rydym yn ymwybodol o rhai cyfyngiadau hygyrchedd parhaus i’r safle cyfredol ac wedi mynd i’r afael â nifer ohonynt ers lansio ym mis Mai 2021 ac mae gyda ni gynlluniau i ddatrys y materion sy’n weddill yr hydref yma. Gellir gweithio o amgylch rhai o’r problemau hyn, a lle’r ydym yn ymwybodol o ddulliau effeithiol a all helpu rhai defnyddwyr, rydym wedi eu nodi isod.
Riportio problemau hygyrchedd
Rydym o hyd yn edrych am ffyrdd o wella hygyrchedd a defnyddioldeb y wefan hon. Os ddowch chi ar draws unrhyw broblemau na restrir ar y dudalen hon, byddwch cystal â rhoi gwybod i ni drwy anfon e-bost atom ar: customer.service@officialinjuryclaim.org.uk
Croesawir pob adborth ynglŷn â hygyrchedd neu ddefnyddioldeb y wefan hon. Byddwn yn ei ystyried yn ofalus wrth i ni barhau i wella’r gwasanaeth.
Rheoli cymhlethdod hawliad
Mae gwneud hawliad yswiriant personol yn broses cymhleth gyda gofyn cyfreithiol a chan yr yswiriwr am lawer o fanylion. Yn ddealladwy ceir cymhlethdod na allwn ei osgoi, ac rydym wedi dylunio’r broses i fod mor eglur a syml â phosib i’ch cefnogi chi i wneud hawliad annibynnol.
Mae’r broses ffurflen hawliad yn un eithaf hir ac mae’n gofyn am lawer o fanylion. Er ein bod wedi ceisio ei wneud mor glir â phosib, mae yn rai cwestiynau cymhleth o hyd. Gwyddom nad yw o hyd yn glir pa beth ddylid ei roi ym mha le. Rydym wedi rhoi peth help yn y bar Gwybodaeth Allweddol a byddwn yn parhau i ddiweddar hwn yn seiliedig ar adborth y defnyddiwr. Byddwn hefyd yn parhau i ddiweddaru’r cwestiynau ar y ffurflen i’w hegluro lle mae hyn o gymorth.
Hygyrchedd y cynnwys
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan yn hollol hygyrch ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio i leihau’r cyfyngiadau hyn.
Mordwyo’r bysellfwrdd
Dylech fod yn gallu llenwi’r ffurflen gan fordwyo gyda’r bysellfwrdd yn unig a thestun o faint safonol. Mae yna rai problemau sydd yn hysbys:
• collir ffocws gweladwy ar benawdau rhai tablau ar rai tudalennau
• os yw’n cael ei chwyddo i 200%, does dim modd cael mynediad at rai dewislenni drwy gyfrwng y bysellfwrdd
• dydy rhai o’r dolenni hepgor ddim yn gweithio’n gywir.
Mordwyo’r darllenydd sgrin
Gallwch fod angen help gyda rhai agweddau o’r ffurflen, fel:
• dyw hi ddim yn bosibl i wneud newidiadau cyn cyflwyno’r ffurflen gan nad yw’r dolenni newid yn gweithio’n gywir gyda darllenydd sgrin
• does dim modd ehangu acordionau wrth ddefnyddio’r cyfuniad o NVDA a Firefox
• mae yna rai problemau gyda thablau o fewn tablau ond ni ddylai’r rhain eich effeithio os taw dim ond un hawliad rydych yn ei wneud. Fe allan nhw effeithio pobl sydd yn gwneud nifer o hawliadau ar ran pobl eraill.
Testun wedi ei chwyddo i 200%
• mae peth testun yn y blychau golygu ddim yn arddangos yn gywir
• wrth adolygu’r hawliad, mae peth testun yn gorgyffwrdd â thestun arall
• dyw hi ddim yn bosib i ddefnyddio pob dewislen ar 200% gan fordwyo gyda’r bysellfwrdd yn unig
• nid yw tablau’n gweithio’n dda o hyd ar 200%
Dyluniad gweledol
Yn gyffredinol, mae’r cynnwys yn rhoi cyferbynnedd lliw a math ffont da ond mae yna rai problemau gweddilliol:
• ar hyn o bryd, nid yw’r wefan yn gweithio mewn cyferbynnedd uchel neu fodd tywyll
• does gan rhai meysydd ffurf, ffin sy’n ddigon clir
• dydy rhai dolenni o fewn y testun dim yn cyferbyneddu’n dda gyda’r testun.
Meddalwedd mewnbynnu llais
• weithiau dydy’r label gweledol ddim yr un peth â’r label fyddwch chi angen ei ddweud, fel y blwch amser allan ac wrth lawrlwytho dogfennau.
Cyfeiriadedd symudol
• ar hyn o bryd dim ond mewn modd tirlun y gallwch ddefnyddio’r wefan ar ffôn symudol.
Efallai bydd y ddolen ganlynol yn ddefnyddiol i chi. Ceir cyngor ynddi ynglŷn â sut mae newid gosodiadau eich cyfrifiadur i’w wneud yn haws i’w ddefnyddio: Fy Nghyfrifiadur Fy Ffordd Innau.
Materion eraill rydym yn mynd i’r afael â nhw
Rydym hefyd yn ymwybodol o’r materion canlynol rydym yn ceisio eu datrys. Gellir gweithio o amgylch y rhain wrth ddilyn yr awgrymiadau dilynol:
• nid yw rhai o’r meysydd ffurflen wedi eu marcio’n glir. Mewn mannau, ceir gwybodaeth sy’n ymddangos unwaith i chi ddewis ymateb. Efallai bydd angen i chi ddefnyddio cyfuniad o allweddi saeth a’r botwm tab mewn rhannau o’r ffurflen er mwyn cael yr holl wybodaeth
• mae rhai o’r negeseuon gwall heb eu cysylltu’n gywir gyda’r maes ffurflen ac nid yw’n glir pan fydd y gwall wedi ei gywiro. Bydd angen i chi chwilio am y negeseuon gwall a gwirio cyn ail-gyflwyno’r dudalen
• mae rhai o’r dolenni heb eu geirio’n glir
• ar rai tudalennau mae’r ddolen i’r dudalen hafan yn dweud “logo”
• mae gan y rhan fwyaf o dudalennau H1 a strwythur pennawd da. Fodd bynnag, mae yna rai tudalennau sydd heb H1. Mae gan rhai tudalennau penawdau gwag neu strwythur pennawd anghywir. Mae rhai cwestiynau ar y ffurflen wedi eu marcio fel penawdau
• mae rhai tablau heb eu marcio’n glir fel tablau. Dylech allu eu llenwi o hyd
• mae rhai dolenni neu fotymau sy’n rhoi manylion pellach ddim yn cadarnhau os yw eu statws wedi ehangu neu grebachu. Efallai bod angen i chi geisio a chlicio arnyn nhw i weld os byddan nhw’n ehangu.
• nid yw rhai elfennau wedi eu grwpio’n gywir felly nid yw’n glir pan fydd un yn cael ei ddewis a’r llall heb. Bydd hyn yn effeithio yn bennaf ar bobl sydd yn gwneud sawl hawliad ar ran pobl eraill
Gellir dod o hyd i restr lawn o’r canllawiau rydym yn gweithio tuag atyn nhw yma.
Tipiau ar ddefnyddioldeb cynhwysol:
Efallai gall y tipiau canlynol sy’n deillio o’n profi defnydd cynhwysol ei wneud yn haws i chi gwblhau eich hawliad.
Bar gwybodaeth allweddol
Mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol yn y bar gwybodaeth Allweddol a leolir i ochr dde'r meysydd ffurflen. Ar gyfer defnyddwyr darllenydd sgrin, mae’r bar gwybodaeth Allweddol yn dilyn y botymau Parhau a Cadw a Gadael.
Map i ddewis lleoliad y ddamwain
Mae gan y blwch testun ger y map god post ynddo. Gallwch roi’r cod post ynddo os wyddoch chi ef, neu deipio disgrifiad o leoliad y ddamwain fel cyffordd yr A1 a’r A14. Yna, defnyddiwch y botwm darganfod lleoliad i ddiweddaru’r map.
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrîn neu’n ei chael hi’n anodd defnyddio mapiau, mae yna flwch disgrifio o dan y map. Gallwch deipio manylion ynglŷn â lleoliad y ddamwain yno.
Cytundeb defnyddiwr wrth gofrestru
Mae yna gytundeb defnyddiwr sydd angen i chi ei ddarllen wrth i chi gofrestru am y gwasanaeth. Nid yw’r blwch ticio ar gael i’w ddefnyddio hyd nes i chi agor y Cytundeb defnyddiwr. Mae hwn yn agor mewn ffenestr newydd ar eich porwr, felly unwaith i chi ei ddarllen, does dim modd i chi ddefnyddio botwm y porwr i fynd yn ôl i’r ffurflen. Bydd angen i chi gau’r ffenest newydd a mynd yn ôl i’r ffurflen. Yna gallwch roi tic yn y blwch gwirio a pharhau.
Terfyn Amser
Mae gan y safle derfyn amser sy’n cael ei gychwyn os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth ar y safle am beth amser. Bydd gyda chi 5 munud i ddweud os hoffech chi fynd ‘nôl i’r ffurflen ac yna gallwch barhau yn ôl yr arfer.
Os ydych yn defnyddio darllenydd sgrîn, mae’r botwm ‘Iawn’ ar y naidlen terfyn amser wedi ei labelu ac yn dweud “Caewch y ffenest hon”.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei adolygu ddiwethaf ar Awst 2, 2021.
Cafodd y wefan hon ei brofi ddiwethaf ar Orffennaf 12, 2021. Cafodd y prawf ei gynnal gan Dig Inclusion Ltd (www.diginclusion.com).
Hwyluswyd profi anabledd cynhwysol a grwpiau ffocws gan Open Inclusion Ltd (www.OpenInclusion.com).